Croeso cynnes i chwi i wefan swyddogol Ysgol Cerrigydrudion.Mae'n bleser ac yn fraint i mi gael cyflwyno'r wefan hon i chi gan obeithio fe gewch flas o'r hyn a gynigir yn Ysgol Cerrigydrudion. Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Cerrigydrudion sydd yn gwasanaethu ardal wledig Uwchaled gan gynnig addysg ac ethos Gymreig.Ysgol a chymuned glos ydym sydd yn cynnig croeso cynnes i bob un unigolyn. Cynygiwn awyrgylch diogel ac ysbrydoledig gan gynnig safonau gorau o ran dysgu ac addysgu.Ein gweledigaeth ar gyfer Ysgol Cerrigydrudion yw datblygu ein plant:•i gyflawni ei gorau glas;•i fod yn ddysgwyr annibynnol gydol oes;•i fod yn ymwybodol a balch o'u Cymreictod a'u cymuned.•i feithrin eu doniau•i fod yn hapus a iach.Ein bwriad yn syml yw rhoi profiad hapus i'ch plentyn ar ddechrau ei taith addysgiadol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn unigolyn hyderus wrth adael Ysgol Cerrigydrudion; yn sicr ohono’i hunan ac yn dangos parch a chonsyrn at eraill; ac â’r gallu i greu a chynnal perthynas ag oedolion a phlant o ba bynnag gefndir.I grisialu y cyfan – dyma englyn gan Huw Dylan Jones:Ysgol CerrigI bob un rhoi lle arbennig-a dysg,Meithrin dawn nodedig,A gwychder Ysgol CerrigYn eu rhoi fry ar y brig. H.D